Blog

29/01/22

29 January 2022

RCP is-lywydd Cymru: Llygedyn o obaith | cyffro cyn etholiad | gofal yn nes at adref

Beth oedd teitl fy mlog yn Ionawr 2021? Above the dark clouds, there is a blue sky. Wel am fwrlwm o flwyddyn oedd hi – gydag ambell i glwt o awyr las, ond digon o gymylau duon hefyd. Mae’r optimydd ynof yn gweld blwyddyn fwy disglair a llai cythryblus o’n blaenau, er y don o achosion Omicron a phwysau anferth y gaeaf a welir ar hyn o bryd.

Dw i’n clywed pobl yn dweud na allwn adael i Covid-19 rwystro busnes. Mae eraill o blaid mabwysiadu’r ffyrdd newydd o weithio’n barhaol a pheidio â llithro’n ôl i’r hen arferion. Rydym yn dal i ymdopi â bylchau anferth mewn rotâu, a llawer iawn yn i ffwrdd yn sâl ac yn hunan-ynysu o hyd: awgrymodd arolwg gan yr RCP ym mis Rhagfyr 2021 fod 1 o bob 10 meddyg yn y DU yn methu â gweithio dros y cyfnod cyn y Nadolig. Fodd bynnag, nid oedd yr ymateb gan Gymru cystal â hynny felly dw i’n erfyn ar bobl i anfon data cadarn atom drwy gwblhau’r arolygon. Fodd bynnag, nid oedd yr ymateb gan Gymru cystal â hynny felly dw i’n erfyn ar bobl i anfon data cadarn atom drwy gwblhau’r arolygon. Ar nodyn tebyg, bydd cyfrifiad 2021-22 o hyfforddeion arbenigeddau uwch yn cau ar 14 Chwefror. Os yw’n berthnasol i chi, a allwch gymryd chwarter awr i’w gwblhau? Mae’n ffordd dda iawn o gyflwyno’r dystiolaeth angenrheidiol i ddylanwadu ar newid ar eich rhan.

Ar ddydd Llun, byddem yn lansio Unman yn debyg i gartref: Defnyddio wardiau rhithwir a gwasanaethau ‘ysbyty gartref’ i fynd i’r afael â’r pwysau ar ofal brys ac argyfwng. Mae’r adroddiad diweddaraf hwn gan dîm Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru yn cynnig nifer o astudiaethau achos o bob cwr o Gymru ac yn nodi argymhellion i wella llif cleifion drwy ysbytai drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau ‘ysbyty gartref’. Rhowch wybod beth yw eich barn!

Ydych chi'n siarad Cymraeg? Rydym bob amser yn chwilio am aelodau Coleg Brenhinol y Meddygon sy’n fodlon siarad am eu profiadau gyda’r cyfryngau drwy gyfrwng y Gymraeg. Y llynedd, cynhaliais dros 70 o gyfweliadau darlledu ar y radio a’r teledu, llawer ohonynt yn Gymraeg – mae’n ffordd ddefnyddiol iawn o gyfleu ein negeseuon i wleidyddion ac i’r cyhoedd, a byddwn yn eich annog i gysylltu â ni os gallwch ein helpu: Lowri.Jackson@rcp.ac.uk. Gallwn ddarparu sesiynau briffio, cyngor a hyfforddiant ar y cyfryngau: rhywbeth gwych i’w gael ar gyfer y CV.

Mae 2022 yn flwyddyn etholiad i’r RCP. Cyn bo hir byddwn yn gwybod enwau’r saith ymgeisydd i fod yn llywydd a chawn gyfle i wrando arnynt mewn hystings rhithiol ym mis Mawrth. Bydd dau etholiad yng Nghymru hefyd: hon fydd fy mlwyddyn olaf fel is-lywydd felly byddwn yn chwilio am enwebiadau ar gyfer y rôl dros yr haf. Bwriedir hefyd cynnal etholiad cynghorydd rhanbarthol yng ngogledd Cymru dros yr haf. Beth am feddwl am chwarae mwy o ran yn ein gwaith yng Nghymru ac ystyried sefyll fel ymgeisydd? Gallaf gymeradwyo’r profiad yn fawr iawn. Mae wedi bod yn bleser mawr gweithio ar eich rhan dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yn dilyn ymweld ag Ysbyty Maelor Wrecsam a’n hadroddiad y llynedd, cawsom gyfarfod yn ddiweddar â thîm gweithredol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Bwriedir cynnal cyfarfod dilynol â meddygon yn Wrecsam ar 31 Ionawr a bwriadwn wedyn gynhyrchu adroddiad cynnydd chwe mis. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos â chyfarwyddwr meddygol gweithredol Aneurin Bevan i fonitro eu cynllun gweithredu. Ymddengys bod y ddau fwrdd iechyd yn gwneud cynnydd, ond fel bob amser, dibynnwn arnoch chi i’n cadw yn y darlun. Cofiwch gysylltu ag unrhyw bryderon a allai fod gennych.

Wrth i lefelau rhybudd Covid-19 ddod i lawr dros yr wythnosau nesaf, gallwn efallai ddechrau cwrdd wyneb yn wyneb eto yn y gwanwyn. Rhwng pwysau’r gaeaf a staff yn absennol, mae digwyddiadau wyneb yn wyneb yn annhebygol am rai wythnosau eto. Fodd bynnag, dylai Diweddariad Meddygaeth RCP Cymru ar 24 Tachwedd ddod â phawb yn ôl at ei gilydd yng Nghaerdydd eto, am y tro cyntaf mewn tair blynedd – rhywbeth i edrych ymlaen ato!

Hefyd yn 2022, bwriadwn gynnal dau gyfarfod Cyswllt RCP Connect yng ngogledd a de-orllewin Cymru, ymweliad gan y llywydd â de-ddwyrain Cymru, cyfarfod agoriadol y rhwydwaith SAS ar 9 Chwefror ac, wrth gwrs, cynhadledd flaenllaw Meddygaeth 2022 yr RCP rhwng 31 Mawrth–1 Ebrill. Cysylltwch â thîm yr RCP yng Nghymru gydag unrhyw gwestiynau: Wales@rcp.ac.uk.

Strategaeth newydd yr RCP 2022-24

Mae’r RCP wedi cyhoeddi strategaeth newydd gyda thair prif flaenoriaeth: addysgu meddygon a’u cynorthwyo i gyflawni eu potensial; gwella iechyd a gofal ac arwain ar atal salwch ar draws cymunedau; a dylanwadu ar sut y mae gofal iechyd yn cael ei ddylunio a’i ddarparu.

Galw am grynodebau

Eleni bydd Meddygaeth 2022, cynhadledd flynyddol yr RCP, yn cael ei chynnal rhwng 31 Mawrth a’r 1 Ebrill. Dylech gyflwyno eich crynodebau erbyn 11 Chwefror am gyfle i’ch gwaith ymchwil gael ei weld gan bobl ar draws y byd. Am fwy o wybodaeth, ac i gyflwyno eich crynodeb, ewch i’n gwefan.

A’r enillydd yw...

Mae cyflwyniad enillydd cynllun darlithydd Turner-Warwick 2021 yng Nghymru bellach ar gael i'w wylio am ddim ac ar gais ar yr RCP Player. Ein henillydd yng Nghymru oedd Dr Scott O’Rourke, ST6 yn Ysbyty’r Tywysog Philip. Teitl ei gyflwyniad oedd ‘The potential of metabolomics in diagnosing and monitoring obstructive sleep apnoea hypopnoea syndrome’.

Canllawiau newydd gan Dechnoleg Iechyd Cymru

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi argymell bod dull newydd o roi diagnosis o fethiant y galon yn cael ei fabwysiadu fel mater o drefn yng Nghymru, yn ogystal â rhaglen cymorth seicolegol er mwyn lleihau iselder ymhlith pobl sy’n gofalu am bobl gyda dementia.

Cadw’n iach y gaeaf hwn

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi taflenni Cadw’n iach y gaeaf hwn newydd yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Galwad gyllid: Rhaglen Arloesi Gofal Wedi’i Gynllunio

Gallwch ymgeisio am gyllid a chymorth i ddatblygu, gweithredu a phrofi dulliau arloesol o helpu i drawsnewid  ‘gofal wedi’i gynllunio’ yng Nghymru drwy’r Rhaglen Arloesi Gofal Wedi’i Gynllunio, dan arweiniad y Comisiwn Bevan ac wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Dylech wneud cais erbyn 15 Chwefror drwy fynd i’w gwefan

Prif diwtor coleg newydd i Gymru

Yn olaf hoffwn groesawu Dr Andrew Lansdown i’r tîm. Mae’n cymryd drosodd gan Dr Jo Morris fel prif diwtor coleg Cymru a hoffwn ddiolch o galon i Jo am ei gwaith ardderchog dros y blynyddoedd wrth iddi ddechrau ei swydd fel cyfarwyddwr rhaglen hyfforddiant ag AaGIC.

A sôn am awyr las, dw i wrth fy modd bod prif weinidog Cymru wedi cyhoeddi y bydd gan gystadleuaeth rygbi’r Chwe Gwlad wylwyr eto. Mi fydda i’n un ohonynt – yn gwisgo masg wrth gwrs!

Byddwch ddiogel a chymrwch ofal.