Blog

28/01/21

28 January 2021

Daw eto haul ar fryn

Cofio ein cydweithwyr

Ym mis Rhagfyr, aeth RCP ati i gynhyrchu teyrnged i aelodau a chymheiriaid sydd wedi marw o COVID-19. Bydd y ddogfen hon yn cael ei hadolygu a’i diweddaru – os ydych chi’n gwybod am rywun sydd heb gael ei gynnwys, cysylltwch ag RCP.

Felan y Gaeaf

Mae COVID-19, ar ben pwysau arferol y gaeaf, wedi rhoi straen enfawr ar bob bwrdd iechyd. Er bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cyfyngiadau symud ar waith cyn y Nadolig wedi helpu i ffrwyno nifer yr heintiau newydd yng nghanolbarth a de Cymru, rydyn ni’n dal i weld cynnydd sy’n peri pryder yng ngogledd Cymru.

Meddygon sy’n gofalu am 90% o’r holl gleifion preswyl sydd â COVID-19 mewn ysbytai, ac mae'r salwch yn cael effaith gorfforol a meddyliol ar bob un ohonom. Mae RCP yn achub ar bob cyfle i godi pryderon ynghylch llesiant staff yn y cyfryngau a gyda swyddogion y llywodraeth. Yn ystod cyfarfodydd rheolaidd gyda'r prif swyddog meddygol, rydyn ni wedi pwysleisio bod angen rhoi’r brechlyn i’r holl feddygon sy’n delio â chleifion cyn gynted â phosibl, ac wedi galw am well cyfathrebu â'r proffesiwn meddygol am amserlen y brechlyn. Gobeithio y byddwch yn cael dau ddos o’r brechlyn yn fuan iawn.

Yn ddiweddar, ymunodd y pedwar prif swyddog meddygol â Choleg Meddygol Cyffredin ac Academi Colegau Meddygol Brenhinol i ddiolch i feddygon ledled y DU yn eu llythyr diweddaraf i’r proffesiwn. Hoffwn ychwanegu fy llais at eu llais nhw. Rwy’n falch iawn o’r ffordd mae ein haelodaeth yn wynebu’r afiechyd ofnadwy a chreulon hwn ac rwy’n diolch i chi o waelod fy nghalon am eich proffesiynoldeb a’ch brwdfrydedd.

Straeon o’r rheng flaen

Mae’r tîm yng Nghymru yn awyddus i gasglu straeon gan weithwyr y rheng flaen a thynnu sylw at eich profiadau, eich teimladau a’ch safbwyntiau am y pandemig. Rydyn ni eisiau codi proffil meddygon yn ystod y cyfnod cythryblus hwn. Gan fod naw claf COVID-19 o bob deg yn cael eu trin gan ein meddygon a’n haelodau ni, mae eich llais yn haeddu cael ei glywed yn ehangach. Felly, os ydych am rannu eich stori, cysylltwch â ni.

Mae’r cyfryngau wedi dangos diddordeb brwd. Cafodd Dr Andrew Lansdown (Ysbyty Athrofaol Cymru) ei gyfweld ar BBC Radio 5 Live yn fuan ar ôl y Nadolig am y pwysau mae gweithlu’r GIG yn eu hwynebu yn ne Cymru. Rydw innau wedi cael cyfle i dynnu sylw at ambell fater pwysig ar deledu a radio cenedlaethol.

Ar y nodyn hwnnw, mae BBC News yn ymchwilio i brofiadau meddygon BAME yn ystod y pandemig coronafeirws. Mae’r BBC wedi llunio holiadur byr a dienw a bydd canfyddiadau’r holiadur hwnnw’n cael eu defnyddio i lywio arlwy’r BBC. Os hoffech gymryd rhan, y dyddiad cau yw 31 Ionawr 2021.

Bydd arolwg nesaf RCP i olrhain sut mae COVID-19 wedi effeithio ar y gweithlu’n cael ei anfon atoch chi ar 10 Chwefror. Dyma arolwg darlun arall a bydd ar agor am 24 awr yn unig, felly cofiwch ei lenwi. Dim ond munud neu ddau o’ch amser fydd yr arolwg yn ei gymryd ac mae’n ein helpu ni i greu achos cryfach er mwyn i Lywodraeth Cymru, gwleidyddion a’r GIG gymryd camau.

Yn y cyfamser, bydd tîm RCP Cymru Wales yn parhau i weiddi’n uchel ac yn aml am eich gwaith caled a’ch agwedd benderfynol. Os hoffech fod yn llefarydd cyfryngau RCP – cysylltwch â’n tîm.

Olrhain anghydraddoldebau iechyd

Bydd gan lawer ohonoch chi ddiddordeb ym Mhodlediad meddygaeth diweddaraf RCP , ble mae Dr Seun Anyiam a’r Athro Carol Brayne yn edrych ar sut mae rhagfarn ddiarwybod clinigwyr yn cyfrannu at anghydraddoldebau parhaus yng nghanlyniadau iechyd cleifion.

Bydd hyn yn un o brif flaenoriaethau RCP yn 2021. Mae tair o’r deg ardal yng Nghymru a Lloegr sydd â chyfraddau marwolaeth uchaf COVID-19 wedi’u lleoli yn ardaloedd difreintiedig de Cymru. Mae hyn yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng anghydraddoldebau iechyd a chyfraddau marwolaeth COVID-19.

Mae RCP Llundain yn chwilio am feddyg dan hyfforddiant i ymuno â’r tîm polisi ac ymgyrchoedd fel cymrawd clinigol ar gyfer anghydraddoldebau iechyd am ddwy flynedd. Mae modd i’r meddyg dan hyfforddiant fod yn unrhyw le yn y DU, felly cofiwch sôn am y cyfle wrth eich cydweithwyr sy’n feddygon iau!

Y genhedlaeth nesaf o arweinwyr meddygol

Rwy’n falch o ddweud wrthych chi bod y broses recriwtio nawr ar agor ar gyfer rhaglen prif gofrestrydd 2021-22 RCP. Mae’r rhaglen arweinyddiaeth flaenllaw hon ar gyfer meddygon dan hyfforddiant sydd wedi ymrwymo i wella ansawdd. Gallwch ddarllen mwy am brofiad un prif gofrestrydd yma. Os oes gan eich bwrdd iechyd neu’ch ymddiriedolaeth ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â chiefregistrar@rcplondon.ac.uk.

Cydweithwyr cynghori ar benodiadau

Yn olaf, rydyn ni wedi cael cadarnhad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, yn nodi y bydd rhaid i gynrychiolydd o RCP fod yn bresennol ym mhob Pwyllgor Cynghori ar Benodiadau (AAC). Felly gwnewch yn siŵr eich bod ar gael os gofynnir i chi eistedd ar banel cyfweld.

Gofalwch amdanoch chi eich hun.

Cadwch yn saff.