Blog

22/09/20

22 September 2020

RCP is-lywydd Cymru: Wrth i’r dyddiau fyrhau

Mae’r hydref ar ein gwarthau: mae’r dyddiau’n byrhau, mae lliwiau’r dail yn newid ac rydym yn dechrau dyfalu sut aeaf sydd o’n blaenau. Pa fesurau fydd yn cael eu cyflwyno i leihau heriau ‘pwysau’r gaeaf’ yn ystod pandemig COVID-19, ac a fyddant yn ddigon? A fydd brechlyn ar gael? A fydd y choedd yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau a roddir arnynt? Er y byddai’n braf cael pelen risial, ni allwn ateb y cwestiynau hyn. Yr hynny y gallwn ei ddweud yn bendant yw bod ein gwybodaeth am COVID-19 yn dra gwahanol i’r hyn oedd 6 mis yn ôl. Mae gennym ymyriadau therapiwtig sy’n gwella canlyniadau i gleifion sy’n ddifrifol wael â COVID-19. Rydym yn deall yr angen am gyfarpar PPE priodol ac mae’r cyflenwadau wedi gwella. Rydym wedi symud ymlaen i normal ‘newydd’ ond mae llawer o bethau wedi newid. Felly, wrth i’r dyddiau fyrhau, mae angen inni fod yn obeithiol, helpu ein gilydd a dal ati i ddarparu gofal diogel. Efallai yr hoffech ddarllen cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth Cymru ar adsefydlu a chartrefi gofal

Rydym wedi gweld ambell newid hefyd yn y tîm gweithredol yn RCP Cymru. Rydym yn croesawu Dr Justyna Witczak a gafodd ei hethol yn ddiweddar fel ein cynrychiolydd ar y Pwyllgor Ymgynghorwyr Newydd. Mae Justyna yn olynu Dr Andrew Lansdown a byddant ill dau yn rhan o’n fforwm Ymgynghorwyr Newydd ddydd Mawrth 13 Hydref. Hoffwn ddiolch yn bersonol i Andrew am ei gyfraniad enfawr yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

Bydd Dr David Price yn rhoi’r gorau i’w swydd fel cynghorydd rhanbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru ym mis Hydref. Mae David wedi gwneud cyfraniad cyson at waith RCP yn ystod y 6 blynedd diwethaf ac mae wedi fy nghefnogi i yn bersonol, ac rwyf wedi gwerthfawrogi hynny’n fawr. Rwyf yn edrych ymlaen at groesawu cynghorydd rhanbarthol newydd ar gyfer de-orllewin Cymru i’n plith. Mae gennym prif gofrestrydd newydd hefyd, Dr Julia Scaife.

Mae Derin Adebiyi, sydd wedi bod yn cyflawni dyletswyddau Lowri Jackson (ein pennaeth polisi ac ymgyrchoedd), yn ein gadael ddechrau mis Hydref pan fydd Lowri yn dychwelyd ar ôl ei chyfnod o absenoldeb mamolaeth. Rydym yn dymuno pob llwyddiant i Derin am y dyfodol. Yn anffodus, gan ein bod yn dal i gwrdd yn rhithiol, nid ydym yn gallu ffarwelio’n bersonol, felly rydym yn cynnig llwncdestun rhithiol i’n cydweithwyr.

Oherwydd bod y rhan fwyaf o’n dysgu’n digwydd yn rhithiol ar hyn o bryd, bydd ein darlith Turner-Warwick Cymru ar blatfform digidol RCP. Cadwch olwg am sgyrsiau diddorol a gwerthfawr ar RCP Player.

Er bod misoedd yr haf fel arfer yn adeg i ymlacio a myfyrio, mae gwaith y coleg wedi mynd yn ei flaen. Rwyf wedi cadeirio cyd-gyfarfodydd ar y gweithlu meddygol ag Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru (AMRCW), y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) a HEIW; wedi cyfrannu at Grŵp Cynghori’r RCP ar Anghydraddoldebau Iechyd; wedi hwyluso gweithdy ar gyfer Comisiwn Bevan ar gartrefi gofal; ac wedi mynychu cyfarfodydd Bwrdd Strategol Rheoli Tybaco Llywodraeth Cymru yn ogystal â thraddodi sgwrs ar bobl hŷn a rhyw yng nghynhadledd grŵp Gwella Gofal Ataliaeth ymhlith Pobl Hŷn 2020 Cymdeithas Geriatrig Prydain!

Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf yn cwrdd â gwleidyddion yn y cyfnod cyn yr etholiad, Tîm Gofal heb ei Drefnu Llywodraeth Cymru i drafod effaith COVID-19, a HEIW ynglŷn â’r strategaeth gweithlu, yn ogystal â chynllunio ar gyfer ymweliad rhithiol llywydd yr RCP â Chymru ym mis Rhagfyr. Byddaf yn eich diweddaru ac yn parhau i weithio dros eich buddiannau fel aelodau RCP Cymru.

Cadwch yn ddiogel